Nigel Brown y Dirprwy Brif Arolygydd
Mae angen mwy o gefnogaeth ar bobol ifanc wrth iddyn nhw adael gofal, meddai’r corff sy’n gyfrifol am gadw llygad ar ofal a gwasanaethau cymdeithasol Cymru.

Ac mae prinder rhieni maeth a phrinder a gormod o fynd a dod ymhlith gweithwyr gofal yn achosi problemau hefyd, medden nhw.

Ond mae adroddiad diweddara’ Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd yn canmol agweddau ar ofal am blant a phobol ifanc ac yn dweud bod awdurdodau lleol yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.

‘Mwy o gefnogaeth’

Mae angen mwy o gefnogaeth gan wasanaethau eraill heblaw gwasanaethau cymdeithasol wrth i bobol ifanc adael gofal maeth a mynd allan i’r byd, yn ôl Dirprwy Brif Arolygydd, Nigel Brown.

Roedd hynny’n cynnwys y gwasanaethau iechyd ac adrannau hamdden cynghorau lleol, meddai ar Radio Wales.

Roedd gwasanaethau’n cydweithio’n dda, meddai, ond roedd yna brinder arian ac mae’r adroddiad yn dweud bod cynlluniau gofal i bobol ifanc yn amrywio o le i le.

“Mae rhai o’r bobol ifanc hyn wedi diodde’ trawma neu brofiadau emosiynol sy’n eu gwneud yn fwy bregus,” meddai.