Meddyg wrth ei waith (Steve Perrin CC by 2.0)
Mae pennaeth y corff sy’n gyfrifol am addysg doctoriaid a deintyddion yng Nghymru’n dweud bod pryderon am yr iaith Gymraeg yn cadw rhai doctoriaid ifanc rhag dod i weithio yma.
Yn ôl yr Athro Derek Gallen o Ddeoniaeth Cymru roedd yna ganfyddiad ymhlith pobol a allai hyfforddi i fod yn ddoctoriaid iau bod rhaid iddyn nhw allu siarad Cymraeg.
Roedd hwnnw’n un o nifer o ganfyddiadau oedd yn rhwystr i recriwtio, meddai wrth siarad yn rhan o wythnos iechyd BBC Cymru.
Rhesymau eraill
Roedd Derek Gallen hefyd yn nodi nifer o resymau eraill pam fod cannoedd o swyddi doctoriaid iau yn wag yng Nghymru.
Roedd gormod o ysgolion meddygol yn Llundain, meddai, gyda phobol oedd wedi hyfforddi’n dueddol o fynd i weithio o fewn 60 milltir i’w canolfan hyfforddi.
Ond roedd Derek Gallen hefyd yn dweud bod enwau Byrddau Iechyd Cymru yn broblem – doedd yr enwau ddim yn rhoi syniad i ddarpar ddoctoriaid ble’r oedden nhw.
“Fyddai’n rhaid iddyn nhw weithio’n eitha’ caled i ffeindio ble’n union yng Nghymru y maen nhw,” meddai.“Mae yna ganfyddiad y bydd rhaid iddyn nhw gomiwtio ymhell.”
Fe ddywedodd wrth Radio Wales hefyd bod angen canoli rhai mathau o driniaethau arbenigol mewn llai o ysbytai.