Y Gweinidog Addysg, Huw Lewis
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod dwy ysgol wedi cael eu gosod yn y categorïau anghywir ar ddiwrnod lansiad y drefn newydd o fesur perfformiad ysgolion.
Roedd Ysgol Uwchradd Crughywel ym Mhowys ac Ysgol Gynradd Pontarddulais wedi’u rhestru yn felyn ond i fod yn y categori gwyrdd, sef y categori gorau.
Ers heddiw, mae system raddio ysgolion wedi cymryd lle’r hen system fandio ddadleuol ac am y tro cyntaf fe fydd ysgolion cynradd hefyd yn cael eu graddio.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Mae canlyniadau’r system gategoreiddio yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol dros ben ynglŷn â sut mae ysgolion ledled Cymru yn perfformio.
“Maen nhw hefyd yn ein galluogi, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, i roi’r gefnogaeth a’r adnoddau i’r ysgolion sydd eu hangen fwyaf.”
Ond mae undebau a gwrthbleidiau wedi dweud bod y drefn newydd yn rhoi darlun cymysg o addysg Cymru.
Canlyniadau
O’r 1332 o ysgolion cynradd gafodd eu hasesu, mae 206 wedi cael eu rhoi yn y categori gwyrdd a 58 yn y categori coch.
O’r 211 o ysgolion uwchradd gafodd eu hasesu, mae 30 yn y categori gwyrdd ac mae 23 yn y categori coch.
Beirniadaeth
Dywedodd llefarydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nad yw’r drefn newydd yn canolbwyntio ddigon ar ddisgyblion unigol.
Yn hytrach, meddai Aled Roberts o’r blaid, mae’r system gategoreiddio yn rhoi “darlun cymysg” o safonau addysgu drwy roi label ar yr ysgol gyfan.
“Mae’r canlyniadau yn rhoi darlun cymysg i ni ac fe fydd hi’n amser cyn i ni allu eu gwerthfawrogi yn llawn.
“Dwi ddim yn credu mai labelu ysgolion yw’r ffordd orau o sicrhau atebolrwydd.”
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru dros addysg, Simon Thomas, bod y system gategoreiddio yn “gam yn y cyfeiriad cywir” ond bod cyflawni yn dal yn broblem i Lywodraeth Cymru:
“Nid yw’r system hon yn dabl cynghrair o ysgolion ond yn ymgais yn hytrach i gydnabod lle mae methiant yn gorwedd.
“Rhaid i’r Gweinidog ddangos bellach ei fod wedi dewis y meini prawf cywir ar gyfer categoreiddio a’i fod yn darparu’r gefnogaeth gywir er mwyn gwella’r ysgolion cywir.