Mae deddf newydd i orfodi cwmnïau tybaco i werthu sigaréts mewn pecynnau plaen yng Nghymru wedi cael sêl bendith gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Yn ddibynnol ar bleidlais ASau, mae disgwyl i’r newidiadau ddod i rym ym mis Mai 2016.

Mae’r Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol reoleiddio pecynnau cynyrch tobacco ledled y DU. Ond mae’n rhaid cael  caniatâd gan weinidogion Cymru cyn bwrw mlaen a’r newid yn y gyfraith.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth San Steffan i gadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r ddeddf newydd yng Nghymru.

“Rwy’n croesawu’r newid, a fydd yn chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i fynd i’r afael a’r niwed y mae tybaco yn ei achosi.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i leihau lefelau ysmygu yng Nghymru i 16% erbyn 2020.”