Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth am ddynes 35 oed sydd wedi diflannu o’i chartref.

Cafodd Nagnia Shaheen sy’n byw yn ardal Glan yr Afon y tu allan i Gaerdydd ei gweld am y tro diwethaf ym mhentref Llandochau Fach am 10:30yh ar 24 Ionawr.

Mae hi’n bum troedfedd a phedair modfedd o daldra ac mae ganddi wallt du, syth at ei hysgwyddau.

Dywed yr heddlu bod ganddi gysylltiadau gydag ardal Y Bari a Chasnewydd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei lleoliad gysylltu â’r heddlu ar 101.