Eira ar yr A55
Gyda chawodydd trwm o eira wedi effeithio ar sawl rhan o Gymru heddiw, mae rhybudd melyn yn parhau mewn grym tan ddiwedd yfory, gyda rhagor o eira ar ei ffordd at y penwythnos, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae yna rybudd yn parhau i yrrwr gymryd gofal ar yr A55 yn dilyn cyfres o ddamweiniau yn gynharach, gyda dau gerbyd wedi gwrthdaro ar yr A55 ger Llanddulas. Bu’r ffordd ar gau am awr.
Hefyd, ar yr A55, roedd lori wedi colli rheolaeth o’i gerbyd ger cyffordd 32 gan atal traffig rhag mynd heibio.
Mae Bwlch y Crimea rhwng Blaenau Ffestiniog a Betws y Coed yn hynod beryglus ar hyn o bryd ac mae’r heddlu wedi rhybuddio modurwyr i beidio teithio oni bai ei fod yn angenrheidiol.
Ysgolion wedi cau
Mae nifer o ysgolion wedi cau yng Ngwynedd gan gynnwys Ysgol Edmwnd Prys, Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen, Ysgol Rhosgadfan, Ysgol Bro Cynfal, ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle.
Yn Sir y Fflint mae Ysgol Mostyn, Ysgol Rhoshelyg, Ysgol y Foel, Cilcain, Ysgol Bryn Pennant, Ysgol Gynradd Nannerch, Ysgol St Richard Gwyn, Ysgol Uwchradd Treffynnon, a Ysgol Pen Coch wedi cau. Yn sir Wrecsam, mae Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi cau oherwydd yr eira.
Yn y canolbarth, mae’r A470 dros Fannau Brycheiniog ar agor ond mae ’na rybudd bod angen cymryd gofal gan fod yr eira yn dechrau glynu.
Yn y de, mae’r ffyrdd yn parhau yn glir ar hyn o bryd.
Cau maes awyr Manceinion
Yng ngweddill Prydain, cafodd ysgolion, trafnidiaeth a signalau ffon eu heffeithio gan yr eira heddiw.
Fe fu’n rhaid cau maes awyr Manceinion am gyfnod, gyda chysylltiadau rheilffordd rhwng Manceinion a Swydd Efrog wedi’u heffeithio gan yr eira, gyda’r briffordd rhwng Durham a Swydd Efrog wedi cau. Bu’n rhaid cau ysgolion yn Cumbria a Gogledd Iwerddon.