Ed Miliband
Fe fyddai’r Blaid Lafur yn cyflwyno Bil hunanlywodraeth i’r Alban o fewn 100 diwrnod o ddod i rym yn dilyn yr etholiad cyffredinol, meddai Ed Miliband.
Dywedodd Arweinydd y Blaid Lafur y byddai datganoli “yn un o’r pethau cyntaf ar ein hagenda” petai’r blaid yn fuddugol ym mis Mai.
Fe fyddai’r gwaith ar y ddeddfwriaeth yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf Llywodraeth Lafur newydd, meddai.
Daw’r cyhoeddiad heddiw yn sgil addewid a wnaed gan Ed Miliband a’r arweinwyr eraill yn San Steffan y byddai’n rhoi rhagor o bwerau i’r Alban, cyn y refferendwm am annibyniaeth fis Medi’r llynedd.
Wrth siarad cyn iddo deithio i’r Alban i ymgyrchu ar ran y blaid, dywedodd Ed Miliband: “Bydd hyn yn golygu hunanlywodraeth go iawn i’r Alban yn yr unfed ganrif ar hugain, sy’n rhoi i’r Alban y pwerau y mae ei hangen.”
Mae gan y Blaid Lafur gynlluniau i orfodi pleidlais ar drosglwyddo pwerau dros y Rhaglen Waith i Holyrood fis nesaf. Os nad yw’r bleidlais yn llwyddiannus, dywedodd Miliband ei fod yn barod i weithredu yn syth ar ôl cael yr allweddi i 10 Downing Street.
Ychwanegodd: “Bydd y mesur hunanlywodraeth yn rhoi pwerau i’r Alban dros swyddi, y wladwriaeth les a threth.”
Cafodd y cyhoeddiad ei gondemnio gan ddirprwy arweinydd yr SNP Stewart Hosie a ddywedodd: “Byddai ceisio honni fod y mesur hwn yn hunanlywodraeth yn torri’r Ddeddf Disgrifiadau Masnach am ei fod yn anwiredd llwyr.”