Cyngor Sir Benfro
Mae cannoedd o bobl wedi bod yn cynnal protest y bore ma wrth i Gyngor Sir Benfro bleidleisio ar gynlluniau dadleuol i gau pump o ysgolion y sir, a sefydlu tair ysgol newydd.
Roedd tua 300 o brotestwyr wedi ymgasglu tu allan i Neuadd y Sir yn Hwlffordd, i wrthwynebu cau Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Nhyddewi.
Os yw’r cynnig i uno Ysgol Dewi Sant a Bro Gwaun yn cael ei dderbyn fe fyddai’n golygu bod disgyblion yn gorfod teithio i ysgol newydd i blant rhwng 11-16 yn Abergwaun.
Mewn cyfarfod yn Nhyddewi nos Lun, dywedodd ymgyrchwyr eu bod nhw’n ystyried cymryd camau cyfreithiol er mwyn diogelu’r ysgol.
Mae bwriad hefyd i gau ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward, a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol Ysgol Syr Thomas Picton.
Ond mae ’na gynlluniau hefyd i ehangu’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir drwy ddefnyddio safle Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd i sefydlu Ysgol Gymraeg neu Ddwyieithog 3 i 16 oed.
‘Lladd y gymuned’
Roedd Elaine Price o bentref Garnhedryn ymhlith y 300 a fynychodd y brotest. Mae ganddi blentyn yn mynychu Ysgol Dewi Sant.
Dywedodd: “Byddai cau’r ysgol yn lladd y gymuned oherwydd nid ydym am gael teuluoedd ifanc yn symud i’r ardal a byddan nhw ddim am i’w plant gael eu cludo i’r ysgol ar hyd ffordd anodd rhwng Tyddewi ac Abergwaun, mae o am gymryd 35 munud o leiaf neu hyd yn oed yn hirach os ydi’r tywydd yn wael.”
Croesawodd y nifer sylweddol a ddaeth i’r brotest, Meddai, “Roedd yn ardderchog gweld cymaint o bobl o Dyddewi yn y brotest, nid yn unig pobl sydd gyda phlant yno ond pobl sy’n byw yn yr ardal yn ogystal, fe ddaeth y to hŷn hefyd sy’n braf i weld. Rydan ni i gyd yn ymwybodol o’r sgil-effeithiau y bydd cau’r ysgol yn ei gael.”
Os yw’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo heddiw bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau.