Baner IS
Mae arbenigwyr yn astudio recordiad sain sy’n honni i gynnwys llais un o wystlon y Wladwriaeth Islamaidd (IS), Kenji Goto o Siapan.
Mae’r recordiad yn dweud bod yn rhaid i lywodraeth Gwlad yr Iorddonen ryddhau carcharor o Irac, sy’n wynebu’r gosb eithaf am ymosodiad brawychol, erbyn diwedd y dydd heddiw, neu fe fydd y peilot Mu’ath al-Kasaseabeh, o Wlad yr Iorddonen yn cael ei ladd.
Yn Tokyo, dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Yoshihide Suga bod y llywodraeth yn ceisio cadarnhau os mai llais Kenji Goto sydd yn y recordiad sain a bod Siapan yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau.
Mae Gwlad yr Iorddonen eisoes wedi dweud ei bod yn barod i ryddhau’r carcharor yn gyfnewid am Mu’ath al-Kasaseabeh.
Nid yw IS wedi mynnu rhyddhau carcharorion o’r blaen ac mae’r Unol Daleithiau yn gwrthwynebu cynnal unrhyw drafodaethau gydag eithafwyr.
Ond mae’r Brenin Abdullah yn wynebu pwysau gan bobl ei wlad i sicrhau bod y peilot yn dychwelyd adref.