Anne Kirkbride
Bu rhai o actorion Coronation Street yn angladd un o actorion fwyaf “eiconig” y gyfres deledu heddiw.

Bu farw Anne Kirkbride, oedd yn chwarae rhan Deirdre Barlow, mewn ysbyty ym Manceinion wythnos diwethaf yn dilyn salwch byr.

Roedd Bill Roache, sy’n chwarae cymeriad ei gwr ar y sgrin, Ken Barlow,  a Kate Ford, sy’n chwarae ei merch, yn yr angladd ynghyd a gweddw Anne Kirkbride, David Beckett.

Bu Anne Kirkbride farw yn 60 oed ar ôl bod yn rhan o gast Coronation Street am 44 mlynedd.

Roedd hi wedi cymryd hoe o’r gyfres ers mis Medi.