Goleuo canwyll i gofio'r rhai fu farw yn yr Holocost
Wrth i filoedd o bobol ymgasglu ar gyfer digwyddiadau i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr Holocost, mae Llywodraeth San Steffan yn dweud bod mesurau diogelwch llym mewn lle yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Rhybuddiodd  Scotland Yard bod “pryder cynyddol” am y risg i’r gymuned Iddewig ym Mhrydain.

Lai na thair wythnos yn ôl fe gafodd pedwar o bobol eu lladd gan ddyn arfog mewn archfarchnad Iddewig ym Mharis, a 13 arall mewn ymosodiadau gan gynnwys un ar swyddfa’r cylchgrawn  Charlie Hebdo.

Wrth nodi 70 mlynedd ers rhyddhau pobl o wersyll Auschwitz-Birkenau, mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi ei bod am fuddsoddi £50 miliwn mewn cofeb a chanolfan addysg ar gais y Comisiwn Holocost.

‘Rhagfarn’

Wrth ymrwymo  i frwydro yn erbyn rhagfarn a chasineb, fe fydd gweinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb ac Alun Cairns, ymysg yr ASau fydd yn arwyddo Llyfr Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost heddiw.

“Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos bod gweithredoedd o ragfarn yn dal i fodoli. Mae gennym ni oll gyfrifoldeb i godi llais a herio esiamplau i wahaniaethu os ydym yn dod ar ei draws,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.