Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi cefnogi galwad i sefydlu comisiwn o bob plaid i edrych ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y syniad yn un “teilwng” a bod yr “amser wedi dod” i ystyried sefydlu grŵp o’r fath.

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru sydd wedi galw am sefydlu’r comisiwn i archwilio sut y gall y GIG  fynd i’r afael â’r heriau mae’n wynebu.

Yn ôl Kirsty Williams, fe fyddai sefydlu comisiwn yn “fwy pellgyrhaeddol nag ymchwiliad.”

Ei gobaith ydi y byddai gan y comisiwn gadeirydd annibynnol gyda chynrychiolaeth o’r pleidiau gwleidyddol, y sector iechyd, ymchwil, yn ogystal â chleifion.

Fe ddylai hefyd, meddai, edrych ar esiamplau o wasanaethau iechyd eraill o fewn y Deyrnas Unedig a thramor er mwyn deall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim.

Wrth ymateb i Kirsty Williams yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw, dywedodd Carwyn Jones: “Mae hi wedi rhoi gerbron y syniad o gomisiwn trawsbleidiol ac rwy’n credu  bod hynny’n rhywbeth sy’n haeddu ystyriaeth.

“Mae’n anodd asesu a allen ni ei wneud o fewn yr amserlen wleidyddol ry’n ni’n byw ynddo, gydag etholiad eleni a’r flwyddyn nesaf.

“Ond rwy’n meddwl bod yr amser wedi dod i gael comisiwn trawsbleidiol i edrych ar y Gwasanaeth Iechyd ac i gynnig gwerthusiad onest o ran cyfeiriad y GIG yn y dyfodol.”