Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio merch yn ei harddegau a ddiflannodd 23 o flynyddoedd yn ôl wrth gerdded i dŷ ei rhieni.
Mae Nigel Barwell, 51, a Thomas O’Reilly, 50, o Coventry, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Nicola Payne, 18 oed, yn ffurfiol heddiw, a byddan nhw’n ymddangos gerbron llys ynadon yfory, meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Cafodd y ddau ddyn eu harestio fis diwethaf mewn cysylltiad â diflaniad Nicola, ond cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Diflannodd Nicola Payne yn Coventry ar 14 Rhagfyr, 1991, ar ôl iddi adael tŷ ei chariad a dychwelyd adref.
Mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.