Archesgob Caerefrog Dr John Sentamu, gyda'r Esgob Libby Lane
Mae protestiwr wedi amharu ar wasanaeth i ordeinio esgob benywaidd gyntaf Eglwys Loegr yng Nghaerefrog.

Roedd y dyn wedi dangos ei wrthwynebiad wrth i’r Parchedig Libby Lane gael ei hordeinio yn Esgob Stockport.

Wrth i Archesgob Caerefrog Dr John Sentamu ofyn i’r gynulleidfa ai eu hewyllys oedd ordeinio’r Parchedig Lane, fe waeddodd y dyn: “Na, nid yn fy enw i.”