Senedd Gwlad Groeg
Mae’r blaid asgell chwith Syriza wedi dod i gytundeb i ffurfio clymblaid yng Ngwlad Groeg.
Drwy ennill cefnogaeth gan y blaid asgell dde, Groegwyr Annibynnol, fe fydd gan Syriza fwyafrif cyfforddus yn y Senedd.
Mae’r undod annisgwyl rhwng y ddwy blaid wedi achosi i Gyfnewidfa Stoc Athen gwympo 4% ac yng ngweddill Ewrop, yn ôl adroddiadau.
Mae arweinydd Syriza, Alexis Tsipras, wedi addo ail-drafod i ddileu dyledion enfawr y wlad yn sgil yr argyfwng economaidd yno yn ogystal â’r amodau ariannol.
Ond fe rybuddiodd Prif Weinidog Prydain David Cameron heddiw bod buddugoliaeth Syriza am “gynyddu ansicrwydd economaidd ar draws Ewrop.”
Dywedodd llefarydd ariannol y blaid, Giorgos Stathakis, nad oedd gan y llywodraeth newydd gynlluniau i gwrdd â swyddogion o Fanc Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd ac y bydden nhw yn hytrach yn trafod yn uniongyrchol gyda llywodraethwyr.