Clare Wood
Mae hanes treisgar mwy na 1,300 o bobl wedi cael ei ddatgelu o dan y cynllun sy’n cael ei alw’n Gyfraith Clare.

Mae Cyfraith Clare yn caniatáu i’r heddlu ddatgelu gwybodaeth am unrhyw hanes o drais yn y cartref neu weithredoedd treisgar blaenorol gan bartner.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno’n genedlaethol llai na blwyddyn yn ôl ac mae wedi cael ei enwi ar ôl Clare Wood a gafodd ei llofruddio yn Salford gan ei chyn gariad.

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan y Press Association wedi darganfod bod o leiaf 1,335 o ddatgeliadau wedi eu gwneud yng Nghymru a Lloegr o dan y gyfraith, yn dilyn 3,760 o geisiadau.

Datgelodd ffigurau eraill bod y llysoedd wedi rhoi 2,220 o Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig (DVPOs) yn y flwyddyn ddiwethaf er mwyn amddiffyn dioddefwyr, drwy atal troseddwr rhag cysylltu â nhw.

Cafodd Cyfraith Clare ei chyflwyno’n genedlaethol ym mis Mawrth y llynedd, yn dilyn cynllun peilot 14 mis yng Ngwent, Wiltshire, Swydd Nottingham a Manceinion. Cafodd  y DVPOs eu lansio yn yr un mis yn dilyn cynllun peilot am flwyddyn yng Ngorllewin Mercia, Wiltshire a Manceinion.

Dywedodd tad Clare Wood, Michael Brown, ei fod  “wrth ei fodd” bod y gyfraith yn cael ei defnyddio, ond dywedodd ei fod yn ofni mai dim ond ychydig iawn o achosion sy’n cael eu datgelu gan y ffigyrau.

Cafodd Clare Wood, 36, ei thagu a’i rhoi ar dân gan ei chyn gariad George Appleton yn ei chartref yn Salford, Manceinion.

Yn ddiarwybod i Clare Wood, roedd gan George Appleton hanes o drais tuag at fenywod ac roedd wedi defnyddio gwefannau ar-lein a Facebook i chwilio am bartneriaid, gan ddefnyddio gwahanol enwau yn aml.

Daethpwyd o hyd i gorff George Appleton, o Salford, chwe diwrnod wedi marwolaeth Clare Wood, ar ôl iddo grogi ei hun.

Y llynedd, dywedodd adroddiad damniol gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi fod miloedd o ddioddefwyr trais yn y cartref yn cael eu siomi gan heddluoedd ledled Cymru a Lloegr o ganlyniad i “wendidau brawychus ac annerbyniol” yn y modd mae achosion yn cael eu hymchwilio.

Roedd 269,700 o droseddau yn gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2013, a chafodd 77 o ferched eu lladd gan eu partneriaid neu cyn bartneriaid yn yr un cyfnod.