Y Farwnes Randerson
Fe fydd panel o academyddion o bob cwr o Gymru yn cwrdd yng Nghaerdydd heddiw i drafod dyfodol datganoli, mewn trafodaeth wedi’i harwain gan y Farwnes Randerson o Swyddfa Cymru.
Bydd yr unigolion o brifysgolion Cymru yn rhannu eu gweledigaethau ar raglen datganoli Llywodraeth Prydain a’r ffyrdd gorau o ddarparu’r newidiadau i Gymru.
Mae gweinidogion wedi addo cyflwyno cynigion ar ddatganoli pellach i Gymru erbyn mis Mawrth a’r Farwnes Randerson wedi bod yn cyd-weithio gydag Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, sy’n arwain y rhaglen datganoli.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n clywed ystod eang o syniadau ar sut i ddarparu newid cyfansoddiadol sydd am weithio i Gymru,” meddai’r Farwnes Randerson cyn y cyfarfod.
“Mae’r academyddion rwy’n eu cyfarfod heddiw yn rhai o’r bobol orau a fwyaf deallus yng Nghymru ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth wych o wleidyddiaeth, hanes a’r gymdeithas Gymraeg.”
Fe fydd y Farwnes Randerson yn cadeirio’r drafodaeth yn Swyddfa Cymru yn Caspian Point, Caerdydd.