Mae dau lanc wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiad o losgi bwriadol yng nghanol tref Y Fenni ar Ŵyl San Steffan.

Cafodd adeilad adfeiliedig ar gyffordd Heol Aberhonddu a Merthyr Road ei roi ar dân rhywbryd rhwng 8 a 8.30 yr hwyr ar ddydd Gwener, 26 Rhagfyr.

Mae dau fachgen yn eu harddegau, sy’n 16 a 17 mlwydd oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn gwneud ymholiadau pellach.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu  rhif y digwyddiad 277 26/12/14.