Mae cyllid o £220,000 i wella cefnogaeth i famau newydd ar draws Cymru wedi cael ei gyhoeddi heddiw gan y Gweinidog dros Gymunedau a Mynd i’r Afael â Thlodi, Lesley Griffiths.
Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn derbyn £10,000 i ddarparu gweithwyr gyda hyfforddiant ychwanegol i’w galluogi i helpu mamau newydd a merched beichiog sy’n profi problemau iechyd meddwl yn well.
Bydd timau Dechrau’n Deg hefyd yn gweithio’n agos gyda theuluoedd i fynd i’r afael â thlodi plant.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adborth gan staff, a oedd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau ymhellach er mwyn iddynt allu nodi a rhoi cymorth i famau sy’n profi problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod sy’n ymestyn o ddechrau’r beichiogrwydd nes bod eu plentyn yn flwydd oed.
Cefnogaeth
Gall problemau iechyd meddwl yn y cyfnod hwn gael effaith ddifrifol ar les y fam a datblygiad y plentyn, gan effeithio’r broses bondio rhwng mam a phlentyn.
Meddai Lesley Griffiths AC: “Trwy ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio’n agos gyda theuluoedd i ddarparu cymorth wedi’i deilwra, sy’n werthfawr iawn i lawer o deuluoedd a mamau newydd.
“Mae’r cyllid yr wyf wedi’i gyhoeddi yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth y gweithwyr proffesiynol hyn er mwyn iddynt allu adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl yn gynnar a darparu cefnogaeth i famau pan fyddant ei angen fwyaf.”