Mae perchnogion cwmni awyrennau British Airways ar fin dod i gytundeb i brynu’r cwmni Gwyddelig, Aer Lingus.

Bydd angen cytundeb Llywodraeth Iwerddon ar grŵp IAG cyn y bydd modd cwblhau’r trafodaethau i brynu’r cwmni am £1 biliwn.

Mae Llywodraeth Iwerddon yn berchen ar 25% o gwmni Aer Lingus ar hyn o bryd, ac mae llwybr rhwng Dulyn a Heathrow yn ganolog i’r cytundeb yn ôl adroddiadau.

Aer Lingus yw’r pedwerydd cwmni prysuraf yn Heathrow ar hyn o bryd o ran teithiau.

Mae Ryanair hefyd yn berchen ar 30% o Aer Lingus, ac maen nhw wedi methu sawl gwaith i brynu’r cwmni’n gyfangwbl.

Mae disgwyl i IAG ac Aer Lingus wneud datganiad i’r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain ddydd Llun.

Pennaeth IAG, Willie Walsh oedd yn rheoli Aer Lingus rhwng 2001 a 2005 cyn symud i British Airways.

Fel rhan o’r cytundeb, fe fyddai teithiau newydd yn cael eu sefydlu rhwng Dulyn a Washington.

Mae gan IAG oddeutu 430 o awyrennau ac mae’n cyflogi mwy na 60,000 o bobol.

Mae disgwyl i elw IAG godi ar gyfer 2014.

Dywed Dirprwy Brif Weinidog Iwerddon, Tanaiste Joan Burton fod amddiffyn cysylltiadau’r wlad ag Ewrop a’r Unol Daleithiau’n hollbwysig i’r cytundeb.