Mae ffeiliau cyfrifiadurol cyfrinachol yr heddlu sydd wedi mynd ar goll yn cynnwys manylion am y digwyddiadau a arweiniodd at saethu Mark Duggan, yn ôl adroddiadau.

Aeth y ffeiliau ar goll ar ôl iddyn nhw gael eu postio gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn ôl y Mail on Sunday.

Yn ôl y papur newydd, fe allai’r ffeiliau gynnwys enw’r plismon oedd wedi saethu Mark Duggan yn farw, yn ogystal ag enwau plismyn eraill oedd yn rhan o’r ymchwiliad.

Cafodd Duggan ei saethu’n farw yn Tottenham yn 2011, mewn digwyddiad a arweiniodd at derfysgoedd ledled Prydain.

Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i ddiflaniad y ffeiliau, ac mae Heddlu Llundain yn cynorthwyo’r ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, sydd hefyd yn rhan o’r ymchwiliad: “Rydyn ni’n trin pob achos yn ymwneud â thrin data’n ddifrifol.

“Yn hynny o beth, mae ymchwiliad wedi’i lansio ar unwaith ac mae pob cam posib yn cael ei gymryd.”

Mae’r achos hefyd yn cael ei ymchwilio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.