Nigeria
Mae dwsinau o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad brawychol yn ninas Maiduguri yng ngogledd-ddwyrain Nigeria.
Mae’r fyddin yn atal trigolion y ddinas rhag gadael.
Yn ôl Amnest Ryngwladol, mae cannoedd o filoedd o bobol “mewn perygl difrifol”.
Bu nifer o ymosodiadau ar ddinas Maiduguri yn ystod y bum mlynedd diwethaf.
Daw’r ymosodiad ar y diwrnod y mae disgwyl i Ysgrifennyd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry fynd i ddinas Lagos 1,000 milltir i ffwrdd.
Mae etholiadau’n cael eu cynnal yn Nigeria ar Chwefror 14, ac mae disgwyl rhagor o drais bryd hynny, pan fydd yr Arlywydd Goodluck Jonathan yn mynd benben â Muhammadu Buhari.
Mae Boko Haram yn arbennig o weithgar yn ninas Maiduguri, lle cawson nhw eu ffurfio, ac maen nhw’n rheoli ffiniau’r wlad gyda Chamerŵn, Chad a Niger wrth iddyn nhw geisio gyflwyno cyfreithiau Sharia.