Nigel Farage
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi ymateb i feirniadaeth gan y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd Amjad Bashir, sydd wedi symud i’r Ceidwadwyr.
Yn ôl Bashir, mae Farage yn “unben” ac yn “hiliol”.
Yn dilyn ymadawiad Bashir, dywedodd UKIP eu bod nhw’n ymchwilio i’w ymddygiad yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Mae Bashir wedi’i gyhuddo o gyflogi mewnfudwyr anghyfreithlon yn ei fwyty, ac roedd amheuon ynghylch y ffordd yr oedd yn recriwtio aelodau newydd i’r blaid yng ngorllewin Swydd Efrog.
Mae UKIP hefyd yn honni bod gan Bashir gysylltiadau â brawychwyr ym Mhacistan.
Mae Bashir wedi gwadu’r honiadau.
‘Pryderus’
Ond dywedodd Nigel Farage wrth raglen Andrew Marr Show y BBC: “Rydyn ni wedi bod yn gynyddol bryderus am ymddygiad Mr Bashir yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd Farage y daeth penllanw’r ffrae ddydd Gwener yn dilyn cyfarfod recriwtio yng ngorllewin Swydd Efrog.
Er bod Bashir yn gwadu’r honiadau, dywedodd Farage: “Yr hyn na all e wadu yw ei gysylltiad parhaus ag eithafwyr gwleidyddol o Bacistan er i ni ddweud ‘Cadwch draw plis, plis’.”
Ychwanegodd Farage ei fod yn synnu bod y Ceidwadwyr wedi ei dderbyn i’r blaid.