Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud ei bod hi’n parhau i ddisgwyl ymateb llawn ynghylch proses recriwtio Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Yn ôl disgrifiadau swydd y gymdeithas dai, dydyn nhw ddim yn ystyried y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer y prif swyddi.
Roedd Sian Gwenllian wedi ymddiswyddo o fwrdd y gymdeithas dai yn sgil eu hagwedd at y Gymraeg.
Mewn datganiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ei bod hi’n “bryderus” ynghylch y sefyllfa.
“Rwy’n bryderus ynghylch y modd y mae Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn gweithredu yn y mater hwn.”
Gwrthododd Cartrefi Cymunedol Gwynedd oedi’r broses recriwtio ar Ionawr 6, tra bod ymchwiliad ar y gweill, er iddyn nhw dderbyn rhybudd ym mis Tachwedd fod eu proses recriwtio’n torri eu Cynllun Iaith Gymraeg.
“Mae’r amharodrwydd i oedi’r broses recriwtio er mwyn ymgynghori’n briodol gyda mi, ar fater sy’n amlwg o ddiddordeb cyhoeddus mawr yng Ngwynedd, yn peri siom.
“Rwyf o’r farn y dylai CCG ddangos parch a gofal yn y modd y maent yn gweithredu eu Cynllun Iaith.
“Dylai’r sefydliad egluro wrthyf yn llawn beth yw’r anawsterau a chyfathrebu’n briodol â mi fel Comisiynydd.”
‘Cadw at ein gair’
Mae cynllun strategol y gymdeithas dai yn nodi bod “cadw at ein gair” yn un o’i gwerthoedd, ond mae Meri Huws yn amau’r datganiad hwnnw.
“Mae’n anodd cysoni ymrwymiadau’r Cynllun Iaith Gymraeg a’r addewid i gadw gair gyda’r modd y mae CCG yn gweithredu ar hyn o bryd.
“Rwyf wedi gofyn am wybodaeth yn unol â’m swyddogaethau cyhoeddus fel Comisiynydd y Gymraeg ar fater sydd o ddiddordeb cyhoeddus ac yn fater o frys, ond nid yw CCG wedi gweld yn dda i ymateb i’r sefyllfa cyn symud ymlaen gyda’r broses recriwtio.
“Pe bai CCG o ddifrif yn dymuno cydweithio gyda mi fel Comisiynydd, yna gallem fod wedi dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen erbyn hyn.
“Mae’n ymddangos bod bwrdd CCG wedi gwrando ar gyngor cwmni recriwtio a mynd rhagddi gyda phroses recriwtio heb drafod yn briodol gyda mi.
“Galwaf, am y tro olaf, ar i CCG barchu’r ymrwymiadau cyhoeddus a wnaed yn eu Cynllun Iaith.”