Senedd Groeg
Mae trigolion Gwlad Groeg yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol heddiw yn y gobaith o sicrhau sefydlogrwydd ariannol.

Alexis Tsipras o’r blaid asgell chwith Syriza yw’r ffefryn i gipio grym, ond mae’n annhebygol y bydd ganddo fwyafrif wrth ffurfio llywodraeth.

Byddai angen 151 o seddi allan o 300 er mwyn sicrhau mwyafrif.

Pe na bai’r un o’r ddwy blaid yn ennill mwyafrif, byddai gan yr enillydd dridiau i ffurfio clymblaid er mwyn osgoi cynnal ail etholiad ymhen mis.

Roedd Tsipras ar y blaen i Antonis Samaras a’i blaid Democratiaeth Newydd yn ôl polau piniwn cyn yr etholiad, sy’n cael ei gynnal ddwy flynedd yn gynnar.

Ond mae’r canlyniad yn dal yn y fantol, wrth i nifer helaeth ddatgan nad oedden nhw wedi penderfynu’r naill ffordd na’r llall.

Mae plaid Syriza yn addo cynnal trafodaethau ynghylch y cytundeb gwerth 240 biliwn Ewro (£179 biliwn) i achub Gwlad Groeg ar ddechrau’r trafferthion ariannol.

Maen nhw hefyd yn addo gwyrdroi diwygiadau oedd wedi sicrhau benthyciadau i’r wlad i’w hachub nhw ers pedair blynedd, a fyddai’n golygu bod y cymorth ariannol yn dod i ben.

Mae pryderon pe bai hynny’n digwydd ynghylch gallu Gwlad Groeg i godi o’r trafferthion ariannol oedd yn golygu ei bod wedi colli chwarter o’i heconomi.

Yn sgil y trafferthion, cododd diweithdra’n sylweddol.

Mae Samaras a’i blaid yntau’n addo gwella’r economi, gan addo lleihau trethi, ond mae’n mynnu bod angen parhau i dderbyn cymorth ariannol o’r tu allan.