Nigel Farage
Mae gwleidydd sydd wedi symud o UKIP i’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Nigel Farage o fod yn “unben” ar blaid sy’n “hiliol”.
Mewn erthygl yn y Mail on Sunday, mae Amjad Bashir wedi dweud ei fod wedi profi “hiliaeth” o fewn y blaid.
Ychwanegodd fod Farage yn “unben sy’n gwaredu ar unrhyw un sy’n sefyll yn y ffordd”.
Dywedodd: “Rwy wedi penderfynu gadael UKIP gan ei fod yn brosiect ymffrostgar i Nigel Farage ac oherwydd bod nifer o’r beirniadaethau ynghylch y blaid yn wir.
“Yn sicr, rwy wedi profi hiliaeth o fewn UKIP. Rwy wedi cael fy sarhau’n hiliol ar wefannau cymdeithasol gan aelodau eraill o UKIP sy’n gofyn cwestiynau sarhaus fel: ‘Ydych chi’n Fwslim?”
Ychwanegodd Bashir ei fod yn grac pan gafodd ei adael allan o fideo o areithiau yn ystod digwyddiad y blaid, gan ddweud bod y penderfyniad wedi’i wneud ar sail ei hil.
Dywedodd fod tactegau Aelodau Seneddol Ewropeaidd UKIP yn “warthus” ac yn “blentynnaidd”, gan feirniadu agwedd Farage tuag at yr ymosodiadau brawychol ym Mharis yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Ro’n i’n gandryll pan glywais i Mr Farage yn siarad am “bumed colofn” o fewnfudwyr i Brydain.
“Rwy wedi gweithio’n galed gydol fy mywyd a phan ddaeth fy nhad i’r wlad hon, fe weithiodd e’n galed i ddarparau ar gyfer ei deulu.
“Mae’n sarhad i siarad yn y ffordd yna.”
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud ei fod e “wrth ei fodd” yn dilyn penderfyniad Bashir i symud i’r Ceidwadwyr.
Ond mae UKIP wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried diarddel Bashir cyn ei ymadawiad, yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Mae UKIP yn honni bod amheuon ynghylch ei weithredoedd ariannol a’i ddull o recriwtio aelodau newydd i’r blaid.
Ond mae Bashir yn gwadu’r honiadau.