Shinzo Abe
Mae prif weinidog Siapan wedi dweud ei fod yn “ddi-eiriau” ar ôl i fideo awgrymu bod un o ddau wystl o’r wlad yn Syria wedi cael ei ladd gan y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae Shinzo Abe wedi mynegi ei gydymdeimlad â theulu Haruna Yukawa, 42, oedd yn anturiaethwr a gafodd ei gipio yn Syria y llynedd.

Mae Abe hefyd wedi mynnu bod y gwystl arall, y newyddiadurwr 47 oed Kenji Goto yn cael ei ryddhau.

Ond dydy e ddim wedi ymateb i’r neges yn y fideo, lle gwnaeth IS fynnu bod carcharor yn cael ei gyfnewid am Goto.

“Rwy’n ddi-eiriau,” meddai. “Rydym yn beirniadu’r fath weithredoedd yn gryf.”

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi beirniadu’r “llofruddiaeth giaidd”, gan ddweud bod ei genedl “ysgwydd yn ysgwydd” â thrigolion Siapan.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch y Tŷ Gwyn fod swyddogion yn ceisio penderfynu a yw’r fideo’n ddilys.

Mae llywodraeth Siapan yn parhau i ddadansoddi’r fideo, ond maen nhw wedi dweud nad oes rheswm i amau ei bod yn ddilys.

Cafodd Yukawa ei gipio haf diwethaf, tra bod Goto wedi’i gipio ym mis Hydref wrth geisio achub Yukawa.