Menna Machreth
Roedd tua chant o ymgyrchwyr iaith yn bresennol mewn protest yng Nghaernarfon heddiw mewn ymdrech i wrth-droi penderfyniad cymdeithas dai yng Ngwynedd i beidio cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli haen uchel.
Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi penderfynu gollwng gofynion iaith wrth hysbysebu swyddi allweddol.
Ymysg y siaradwyr yn y brotest heddiw yr oedd yr Aelod Seneddol Hywel Williams; cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan; a’r ymgyrchydd a’r prifardd, Ieuan Wyn.
Yn siarad ar ôl y brotest, dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi cydlynu trefniadau’r brotest rhwng nifer o fudiadau:
“Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon  yn siaradwyr Cymraeg. Mae penderfyniad y sefydliad felly yn warthus. A rhaid i ni ddangos ein hymroddiad i fynnu bod y Gymraeg yn sgil hanfodol yma yng Ngwynedd mewn swyddi fel hyn.
“Os caniateir i hyn ddigwydd, bydd  yn tanseilio ymdrechion i gryfhau’r iaith, nid yn unig yn yr ardal hon ond llefydd eraill yn ein gwlad sy’n edrych i ni am arweiniad.
“Mae’r Gymraeg yn sgil hanfodol nid yn unig yma yng Ngwynedd ond ar draws Cymru, ac mae’n hen bryd i bob un sefydliad, sylweddoli, a gweithredu ar hynny.”