Ysbyty Treforys
Mae un o wardiau Ysbyty Treforys wedi’i chau oherwydd nifer o achosion o ffliw.
Mae un achos o’r ffliw wedi’i gadarnhau ar ward Cyril Evans, a thri chlaf arall yn diodde’ o sumptomau. Oherwydd hynny, mae lawdriniaethau sydd ddim yn achosion brys, wedi’u gohirio.
Mae doctoriaid yn annog cleifion bregus a staff gofal iechyd i gael brechiad ffliw.