Fe fydd torri’n ol ar nifer yr uwch swyddogion yn y Fyddin – ac fe allai hynny olygu cannoedd o swyddi.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd arolwg yn digwydd o’r modd y mae’r Fyddin yn cael ei rhedeg, a hynny cyn i adolygiadau a newidiadau ddod i rym yn 2020.

Fe allai cymaint a thraean o’r 500 cyrnol a’r 200 o uwch swyddogion eraill ddod dan y fwyell, meddai adroddiad ym mhapur newydd The Times heddiw.

Meddai llefarydd ar ran y Fyddin:

“Mae’r Army Command Review yn rhan o ddatblygiad y Fyddin erbyn 2020. Fe fydd yn gwneud yn siwr fod strwythur, a threfn ymateb y corff yn addas ar gyfer cyfnod newydd.

“Mae angen i ni allu gwneud hynny mewn modd rymus, dychmygus ac effeithiol.”