Mae miloedd o wrthdystwyr wedi bod yn gorymdeithio ledled Yemen.

Mae rhai’n cefnogi’r gwrthryfelwyr Shiite sydd wedi cipio’r brifddinas, ac eraill yn hawlio annibyniaeth i diroedd y de, wedi ymddiswyddiad arlywydd a chabinet y wlad.

Fe gamodd yr Arlywydd Abed Rabbo Hadi – cyfaill i’r Unol Daleithiau yn y frwydr yn erbyn al Qaida – o’i swydd ddoe, wedi i wrthryfelwyr Houthi fod yn mynnu mwy o rym.

Yn y cyfamser, mae carfan o bobol yn y de, sy’n gwrthwynebu y grym sydd gan y garfan Shiite, yn mynnu y dylai eu tiroedd nhw bwyso am annibyniaeth. Roedd yr ardal yn wlad annibynnol tan 1990.

Lleiafrif Shiite ydi’r Houthis, sy’n cynrychioli tua thraean o boblogaeth Yemen.