Mae disgwyl i brotestwyr o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn wrthdystiadau yn erbyn arfau niwclear Trident yng Nghasnewydd ac yn Llundain heddiw.
Fe fyddan nhw’n galw ar lywodraethau Caerdydd a San Steffan i roi gwir anghenion pobol o flaen yr angen i fuddsoddi arian mewn arfau.
Fe fydd ymgyrchwyr o Wynedd, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Wrecsam, Powys a Cheredigion yn cymryd rhan mewn gweithred symbolaidd o glymu “sgarff heddwch” o gwmpas adeilad y Senedd yn San Steffan.
Mae’r sgarff wedi’i wau gan filoedd o bobol gyffredin o bob cornel o wledydd Prydain.
Ar yr un pryd, yng Nghasnewydd, fe fydd aelodau CND yn sefyll ysgwydd ac ysgwydd ac yn galw am “Gwasanaeth Iechyd Gwladol nid Trident” y tu allan i Ysbyty Brenhinol Gwent.
Meddai Jill Gough, Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru:
“Dydi arfau niwclear erioed wedi gwneud synnwyr. Mae i wledydd herio a bygwth ei gilydd ar yr adeg yma yn hanes y ddynoliaeth, yn bygwth dinistrio’r byd.
“Oes yna unrhyw un, mewn difri, eisiau Rhyfel Oer arall?”