Safle UPM yn Shotton, Glannau Dyfrdwy
Fe ddaeth cadarnhad y bydd 121 o weithwyr yn colli eu gwaith mewn melin bapur yn Shotton.
Mae cwmni UPM yn cyflogi 370 yn y ffatri, ac fe gyhoeddon nhw ym mis Tachwedd y byddai’n rhaid diswyddo dros gant o staff wrth iddyn nhw gau i lawr un o’u peiriannau ar y safle ar Lannau Dyfrdwy.
Mae gan UPM ffatrïoedd eraill yn Ffrainc, Y Ffindir a’r Almaen, a bydd cyfanswm o tua 350 o weithwyr yn colli eu gwaith ledled Ewrop.