Fe fydd timau pel-droed Y Bala a’r Seintiau Newydd yn herio’i gilydd yn Y Drenewydd fory er mwyn ceisio cipio tlws mawr cyntaf y tymor.
Mae’r ddau glwb yn gobeithio ennill yr hawl i roi eu henw ar Gwpan Word, gyda’r ffeinal yn cael chwarae ar Barc Latham eleni ac yn cael ei darlledu’n fyw ar raglen Sgorio S4C am 12.45yp.
Y Seintiau fydd y ffefrynnau clir gan mai nhw sydd yn eistedd ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar hyn o bryd a dal yn gobeithio ennill y trebl eleni.
Ond fe gyrhaeddodd Bala ffeinal y gwpan hon llynedd, ac fe fyddan nhw hefyd yn ysu am gipio’r tlws a chael eu gafael ar y £10,000 o wobr ariannol sydd ar gael i’r enillydd.
Cae 3G
Cae 3G sydd ar Barc Latham yn Y Drenewydd, rhywbeth fydd hefyd yn debygol o ffafrio’r Seintiau Newydd gan eu bod nhw hefyd yn chwarae gemau cartref ar gae artiffisial.
Fe fyddan nhw hefyd yn hyderus o drechu’r Bala unwaith eto, ar ôl gwneud hynny dwywaith y tymor hwn yn barod.
Mae’n debyg nad yw Bala erioed wedi trechu’r Seintiau mewn unrhyw gystadleuaeth, ac felly fe fydd hi’n ganlyniad hanesyddol petai tîm Colin Caton yn llwyddo i drechu’r cewri o Groesoswallt.
Petai’r Seintiau Newydd yn ennill dydd Sul honno fyddai’r chweched tro iddyn nhw ennill y gwpan, mwy nag unrhyw glwb arall yn hanes y gystadleuaeth.