Mae Garry Monk wedi addo y bydd Abertawe yn ymateb i’r golled drom yn erbyn Chelsea yr wythnos diwethaf gyda pherfformiad gwell yn erbyn Blackburn.

Bydd yr Elyrch yn teithio i Ewood Park fory ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr i wynebu tîm sydd yn 10fed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.

Ac mae rheolwr Abertawe wedi mynnu y bydd y cefnogwyr yn gweld gwell dydd Sadwrn.

“Fi wedi colli gemau fel hynny pan oeddwn i’n chwaraewr a chi methu aros nes y gêm nesaf wedyn,” meddai Monk, gan gyfeirio at fuddugoliaeth Chelsea o 5-0.

“Chi eisiau mynd ar y cae a gwneud pethau’n iawn eto. Mae’r chwaraewyr yn gwybod fod y 45 munud cyntaf yn erbyn Chelsea yn annerbyniol ond does dim rhaid gwneud môr a mynydd o’r peth.”

Naughton mewn

Mae’n debygol y bydd yr amddiffynnwr Kyle Naughton yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb ar ôl cwblhau ei drosglwyddiad o Spurs am £5m.

Fydd Wayne Routledge ddim ar gael ac mae Ashley Williams yn cael saib er mwyn gwella o anaf i’w ysgwydd, ond fe allai Jonjo Shelvey a Jefferson Montero ddychwelyd i’r tîm.

Mae Abertawe dal yn ceisio cwblhau trosglwyddiadau cefnwr chwith Norwich Martin Olsson, a chwaraewr canol cae Stuttgart Alexandru Maxim, ond fyddan nhw ddim wedi arwyddo mewn pryd i herio Blackburn.

“Ni wedi siarad am dargedau a’u rhoi nhw ar y rhestr fer ac wedyn fe wnawn ni weld os ydyn nhw’n iawn ar gyfer y clwb,” ychwanegodd Monk.