Mae rheolwr Caerdydd Russell Slade wedi dweud ei fod yn gobeithio y gallai cefnogaeth y dorf gartref helpu ei dîm i drechu Reading dydd Sadwrn.
Bydd yr Adar Gleision yn cyrraedd pumed rownd Cwpan FA Lloegr os ydyn nhw’n llwyddo i drechu’r Royals, sydd pum safle yn is na nhw yn y Bencampwriaeth.
Roedd Caerdydd gartref yn y drydedd rownd hefyd pan enillon nhw yn erbyn Colchester, ond dim ond 5,000 o gefnogwyr ddaeth i wylio honno – y gêm olaf cyn i Vincent Tan benderfynu troi’r clwb nôl yn las.
“Rydyn ni nôl yn ein stadiwm ni, fydd yn gwneud gwahaniaeth,” meddai Slade. “Rydyn ni wedi bod yn eithaf cryf gartref, a fi’n gobeithio bydd hynny’n rhoi’r hwb sydd ei angen arnom ni i gyrraedd y bumed rownd.”
Tîm cryf
Mae Caerdydd dal yn aros i weld a fydd eu hymosodwr newydd Alex Revell yn ffit ar gyfer y gêm yn erbyn Reading fory.
Fydd Anthony Pilkington, Joe Mason a Nicky Maynard ddim ar gael gan eu bod nhw dal yn derbyn triniaeth am anafiadau.
Ond fe fynnodd Slade y byddai’n dewis tîm cryf ar gyfer y gêm a ddim yn newid gormod o chwaraewyr, fel ag y gwnaeth yn erbyn Colchester.
“Bydd un neu ddau o newidiadau, ond wnawn ni ddim gwneud pump neu chwech fel wnaethon ni ar gyfer Colchester,” meddai Slade.
“Beth bynnag, mae’r garfan yn llai nawr nag oedd e tair neu bedair wythnos yn ôl.
“Byddai rhediad yn y Gwpan yn ffantastig i’r clwb yma, achos fi’n credu bydden ni’n elwa o’r momentwm fyddai hynny’n ei greu.”