Mae Kyle Naughton wedi cyfaddef ei fod eisiau chwarae’n fwy rheolaidd ar ôl cwblhau ei drosglwyddiad o Spurs i Abertawe am ffi o £5m.
Fe arwyddodd y cefnwr gytundeb fydd yn para nes 2018 yn Stadiwm Liberty, ac mae’n debygol o chwarae dros yr Elyrch yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Blackburn yfory.
Ac ar ôl cyfnod rhwystredig allan o dîm Spurs mae’r cefnwr 26 oed yn barod i gydio yn ei gyfle gydag Abertawe.
“Rwy’n falch fod e wedi’i gwblhau achos mae sôn wedi bod ers yr haf ynglŷn â symud,” meddai Naughton ar wefan y clwb.
“Y prif beth rwy’n anelu ato yw chwarae pêl-droed yn rheolaidd eto. Rwy’n gwybod y bydd e’n her achos mae chwaraewyr da yma.”
Geirda gan Ben
Datgelodd Naughton ei fod wedi cael sgwrs â Ben Davies a Michel Vorm cyn symud i dde Cymru – fe symudodd Davies a Vorm o Abertawe i Spurs llynedd.
“Roedd Ben wedi bod gyda’r clwb am hirach ac fe ddywedodd fod e’n le gwych i chwarae’ch pêl-droed,” meddai Naughton, sydd yn gallu chwarae fel cefnwr ar y dde neu’r chwith.
“Fe ddywedodd ei fod e’n glwb da a theimlad teuluol yn perthyn i’r lle. A bod yn onest, cyn gynted ag y cerddais i mewn i’r maes ymarfer roeddwn i’n gallu gweld hynny’n syth.”
Gomis yn aros
Yn y cyfamser fe fynnodd rheolwr Abertawe Garry Monk ei fod yn disgwyl i Bafetimbi Gomis aros gyda’r clwb, er gwaethaf sylwadau’r ymosodwr yn awgrymu nad oedd yn hapus.
“Rwy’n hyderus y bydd Bafe yn aros,” meddai Monk. “Rydw i wedi gweld ei sylwadau ac wedi siarad â Bafe ond dyw e ddim yn newydd, dyna sut mae pêl-droed y dyddiau yma.
“Ewch nôl ychydig o flynyddoedd a fyddech chi ddim yn gweld y math yna o sylwadau.
“Ond mae’r sgwrs rhyngddo i a Bafe yn aros rhyngddo i a Bafe.”