Fe fydd y Gweilch yn chwarae am falchder yfory wrth iddyn nhw deithio i Treviso gan wybod fod eu gobeithion yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ar ben.

Mae prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy wedi gwneud chwech newid o’r tîm a gollodd yn erbyn Northampton yr wythnos diwethaf, gan gynnwys pump ymysg yr olwyr.

Dim ond Josh Matavesi ac Eli Walker sydd yn cadw eu lle, gyda Richard Fussell, Tom Grabham, Hanno Dirksen, Sam Davies a Martin Roberts i gyd yn dod i mewn.

Mae James King yn symud i’r ail reng i gymryd lle Alun Wyn Jones, gyda Sam Lewis yn cymryd lle King fel blaenasgellwr.

Ac er bod Steve Tandy yn mynnu ei fod yn canolbwyntio ar gael canlyniad positif allan yn yr Eidal, mae’n cyfaddef ei fod eisoes ym meddwl ymhellach na hynny.

“Rydyn ni wedi gwneud newidiadau gan edrych ar y gemau sydd gyda ni’n dod lan dros y cwpl o fisoedd nesaf, gan roi amser pwysig i rai chwaraewyr ar y cae,” meddai Tandy.

“Ond ni ddim yn edrych ar fis nesaf, neu’r Pro12, yr unig beth rydyn ni’n poeni am y penwythnos yma yw mynd i Treviso, rhoi perfformiad proffesiynol a chael canlyniad positif.”

Bydd uchafbwyntiau’r gêm rhwng y Gweilch a Treviso ar S4C nos Sadwrn am 10.00yh.

Tîm y Gweilch: Richard Fussell, Tom Grabham, Hanno Dirksen, Josh Matavesi, Eli Walker, Sam Davies, Martin Roberts; Marc Thomas, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, James King, Sam Lewis, Justin Tipuric, Tyler Ardron (capt).

Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Dmitri Arhip, Morgan Allen, Olly Cracknell, Tom Habberfield, Aisea Natoga, Dan Evans.