Ymddangosodd merch fronnoeth ar dudalen 3 papur newydd y Sun am y tro cyntaf heddiw ers dros wythnos, sy’n awgrymu fod y papur heb ddod a’r lluniau dadleuol i ben.
Roedd adroddiadau yn gynharach yr wythnos hon fod y papur wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddangos lluniau o ferched bronnoeth ar ôl 44 o flynyddoedd, gan gyhoeddi ei bod yn symud y lluniau ar dudalen 3 i wefan y papur.
Roedd ymgyrchwyr a gweinidogion y Llywodraeth wedi croesawu’r newid.
‘Cywiriad’
Ond yn rhifyn heddiw o’r papur, mae llun o ferch fronnoeth ar dudalen 3, gyda’r papur yn nodi “cywiriad” sy’n datgan – “Yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau hoffwn egluro mai dyma Dudalen 3 a dyma lun o Nicole, 22, o Bournemouth.
“Hoffwn ymddiheuro i’r newyddiadurwyr sydd wedi treulio’r deuddydd diwethaf yn trafod ac yn ysgrifennu amdanom ni.”
Mae’r grŵp ymgyrchu No To Page 3 wedi dweud y gallai’r “frwydr ail-ddechrau” ac ychwanegodd y grŵp ar Facebook: “Rydym yn ddiolchgar i’r Sun am roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch.”
Doedd The Sun ddim wedi cyhoeddi lluniau o ferched bronnoeth ers dydd Gwener ddiwethaf, gan hysbysu darllenwyr y byddai’r lluniau i’w gweld ar eu gwefan. Roedd y papur wedi gwrthod cadarnhau ei fod wedi rhoi’r gorau i ddangos y lluniau.