Fe fyddai cynllun Hawl i Brynu, sy’n rhoi cymorth ariannol i denantiaid brynu eu tai cyngor, yn dod i ben petai Llywodraeth Lafur yn cael ei hail-ethol yn 2016, meddai’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths heddiw.
Ar gyfer y flwyddyn nesaf, fe fyddai’r gostyngiad o hyd at £16,000 sy’n cael ei gynnig i denantiaid ar hyn o bryd hefyd yn cael ei haneru i £8,000.
Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei ddisgrifio gan y Ceidwadwyr yng Nghymru fel penderfyniad “difflach fydd yn amddifadu pobol sy’n byw mewn tai cyngor o’r hawl i brynu eu tai.”
Ond yn ôl y Llywodraeth, mae’n rhaid gweithredu oherwydd bod y cyflenwad presennol o dai “o dan bwysau sylweddol”.
Angen
Meddai Lesley Griffiths, wrth gyhoeddi Papur Gwyn ar y bwriad: “Mae nifer o deuluoedd yn dibynnu ar dai cymdeithasol er mwyn cael lle diogel a fforddiadwy i fyw ynddo.
“Mae ein cyflenwad o dai o dan bwysau sylweddol ac rydym yn dal i weld tai rhent cymdeithasol yn cael eu tynnu allan o’r stoc tai cymdeithasol oherwydd y cynllun Hawl i Brynu, sy’n golygu bod nifer o bobol fregus yn gorfod aros mwy am gartref.
“Dyna pam bod angen gweithredu pendant i amddiffyn ein tai cymdeithasol i wneud yn siŵr eu bod ar gael ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.”
Rhwng 1981 a 2014, cafodd 138,423 o dai cyngor eu gwerthu – mae hyn yn ostyngiad o 45% yn y tai cymdeithasol sydd ar gael pan gyflwynwyd y polisi y tro cyntaf.
Cais i atal y cynllun
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i atal y cynllun dros dro yn lleol, ac fe gafodd y cais ei gymeradwyo gan Lesley Griffiths heddiw.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Kevin Madge: “Rydym yn croesawu’r penderfyniad hwn gan y Gweinidog yn fawr, a fydd yn helpu i ysgafnhau’r galw ar ein cofrestr tai, ac yn helpu ein gweledigaeth i sicrhau bod cartrefi o safon ar gael i bobol leol.”
Ychwanegodd Dyfed Edwards, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Dai fod cyhoeddiad y Llywodraeth i ddod a Hawl i Brynu i ben i’w groesawu.
Er hyn, mae Mark Isherwood o’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu’r penderfyniad gan ddweud y byddai’r Ceidwadwyr yn ailgynnau’r cynllun a byddai unrhyw elw o werthu’r tai yn mynd tuag at adeiladu mwy o dai.
Mae ymgynghoriad y Papur Gwyn yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynigion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 16 Ebrill 2015.