Philip Hammond
Ni fydd lluoedd diogelwch Irac yn barod i frwydro yn erbyn mudiad eithafol IS “am fisoedd”, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond.
Daw’r rhybudd wrth i uwch-swyddogion o 21 o wledydd gwrdd yn Llundain heddiw er mwyn trafod ymdrechion i leddfu grym IS yn Syria ac Irac.
Cyn y cyfarfod, dywedodd Philip Hammond ei bod hi’n “hanfodol” bod y grŵp Islamaidd eithafol yn cael ei orchfygu, “er lles Prydain.”
Cyfaddefodd bod anhrefn o fewn llu ddiogelwch Irac, er gwaethaf cymorth ariannol gan Brydain a’r Unol Daleithiau yn y blynyddoedd ar ôl disodli Saddam Hussein.
“Rydym yn ceisio adfywio’r lluoedd yn Irac, yn rhoi mwy o arfau iddyn nhw – ond fe fydd hi’n fisoedd cyn eu bod yn barod i frwydro yn erbyn IS,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor ar Radio 4 y bore yma.