Gwrthryfelwyr Rwsia yn yr Wcrain
Mae o leiaf saith o bobol wedi cael eu lladd wedi i fws gael ei daro gan ffrwydrad yn ninas Donetsk yn yr Wcráin.
Cafodd y teithwyr eu lladd yn y fan a’r lle, a chafodd ffenestri adeilad cyfagos hefyd eu difrodi.
Dywedodd llefarydd ar y safle y gall hyd at 10 o bobol fod wedi cael eu lladd.
Mae’r gwrthdaro rhwng llywodraeth yr Wcráin a gwrthryfelwyr wedi ail-ddechrau ers dechrau’r flwyddyn, ar ôl i gadoediad gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Nid yw hi’n amlwg pwy sy’n gyfrifol am yr ymosodiad diweddaraf ar hyn o bryd.
Mae mwy na 4,800 o bobol wedi cael eu lladd a tua 1.2 miliwn wedi gorfod ffoi o’r Wcrain ers i wrthryfelwyr sydd o blaid Rwsia feddiannu ardaloedd o’r wlad ym mis Ebrill.