Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Y Selar wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, ddydd Sadwrn 21 Chwefror.

Ers dechrau cynnal digwyddiad byw i ddathlu gwobrau cerddorol blynyddol y cylchgrawn dair blynedd yn ôl, mae’r gwobrau wedi tyfu i fod yn un o uchafbwyntiau calendr y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Mae’r digwyddiad yn tyfu eleni gyda cherddoriaeth fyw am 12 awr ar y diwrnod, a hynny’n rhoi cyfle i lwyfannu rhai o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y sin, gan gynnwys Ysgol Sul, Tymbal, Y Trŵbz, Tom ap Dan a Mellt.

Ymysg y bandiau eraill fydd yn perfformio mae Candelas, Sŵnami, Y Ffug, Plu ac Y Reu.

Bydd y Gwobrau hefyd yn dathlu amrywiaeth y sin gydag artistiaid fel y rapiwr a’r bît bocsiwr Mr Phormula, gyda’r Carcharorion hefyd yn dod ag ychydig o gerddoriaeth electroneg arbrofol i’r parti.

Pinacl y flwyddyn gerddorol

Dyma fydd y drydedd flwyddyn i Wobrau’r Selar gael eu cynnal. Fe gafodd 500 o docynnau eu gwerthu’r llynedd a gyda’r trefnwyr yn dweud y bydd bysus yn dod i’r digwyddiad o bob cwr eleni hefyd.

“Y nod oedd creu digwyddiad cyffrous fyddai’n datblygu i ddod yn ŵyl gerddorol yn ystod y gaeaf,” meddai trefnydd y digwyddiad, Owain Schiavone.

“Mae’n deg dweud ei fod yn cael ei weld fel rhyw binacl ar gyfer y flwyddyn gerddorol erbyn hyn – yn cloi pen y mwdwl ar y flwyddyn a fu, gan ddathlu’r llwyddiannau, ac yn tanio’r flwyddyn gyffrous sydd i ddod.

“Bydd mwy o deimlad gŵyl eleni gyda cherddoriaeth trwy’r dydd, gyda dau lwyfan gefn wrth gefn gyda’r hwyr a chyfle i lu o artistiaid berfformio. Mae’r lein-yp wedi’i ddewis yn ofalus er mwyn ceisio adlewyrchu gweithgarwch y flwyddyn a fu, ac mae hynny’n cynnwys cynnig llwyfan i artistiaid ifanc sydd wedi creu eu marc yn 2014.

“Rydan ni eisoes yn gwybod am fysus sy’n cael eu trefnu o Gaerdydd, Bangor, Ynys Môn, Y Bala, Machynlleth a Chaerfyrddin, ac mae’n gadarnhaol iawn bod pobol ifanc mor awyddus i fod yn rhan o’r digwyddiad – mae’n mynd i fod yn glamp o barti da!”

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar, ar werth o wefan Sadwrn.com nawr, ac yn gwerthu’n dda.