Fe fydd y Super Furry Animals yn rhyddhau hunangofiant swyddogol fis nesaf yn dilyn hanes y band o’u gwreiddiau yng Nghymru i fod yn un o fandiau mwyaf adnabyddus eu cyfnod.
Mae Rise of the Super Furry Animals wedi ei sgwennu gyda chymorth y newyddiadurwr Ric Rawlins, ac yn dilyn trywydd y band i’r brig.
Fe fydd steil y clawr hefyd yn edrych yn gyfarwydd gan ei fod wedi cael ei ddylunio gan Pete Fowler, oedd yn gyfrifol am nifer o gloriau albyms Super Furrys.
Tanc a thaith i Golombia
Llynedd fe gyhoeddodd Gruff Rhys, un o aelodau’r band, ei brosiect unigol American Interior oedd yn cynnwys albwm, ffilm, llyfr ac Ap.
Yn anffodus i’w ffans, does dim albwm gan y Super Furrys i gyd-fynd â’r llyfr newydd.
Ond mae’n ymddangos fod y band yn ddigon parod i geisio diddanu eu darllenwyr, gan ddisgrifio’r llyfr fel un sydd yn adrodd hanes “y band pop seicedelig gorau ein hoes”.
Ac mae gan y grŵp ddigon o straeon i’w hadrodd hefyd, o’r tanc y gwnaethon nhw brynu i ymweliad â jyngl yng Ngholombia.
Bydd y llyfr yn cael ei chyhoeddi ar 19 Chwefror, ac mae modd ei phrynu o flaen llaw ar Amazon.