Mae nifer y carcharorion sy’n lladd eu hunain wedi codi i’w lefel uchaf ers saith mlynedd.
Toriadau’r Llywodraeth i swyddogion carchar sy’n cael y bai am y broblem gynyddol.
Roedd 14 o’r 82 o bobl oedd wedi lladd eu hunain tra yn y carchar yng Nghymru a Lloegr y llynedd rhwng 18 a 24 oed.
Bu farw cyfanswm o 235 o bobl yn y carchar y llynedd, yn ôl ffigurau gan Gynghrair Howard er Diwygio Cosbau sy’n seiliedig ar wybodaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Roedd 120 o’r rheiny wedi marw o achosion naturiol.
‘Anobeithiol’
Dywedodd Frances Crook, prif weithredwr yr elusen, bod swyddogion carchar yn gorfod delio gyda phobl yn ceisio lladd eu hunain bron bob dydd, ac mae’n rhoi’r bai ar doriadau staff am y cynnydd yn nifer y marwolaethau.
“Mae’r Llywodraeth wedi caniatáu i’r boblogaeth mewn carchardai i gynyddu tra’n cael gwared a staff, a dyn sydd wedi arwain at nifer y bobl sy’n marw o ganlyniad i hunanladdiad,” meddai.
“Ni ddylai unrhyw un fod mor anobeithiol tra eu bod nhw yng ngofal y wladwriaeth fel eu bod nhw’n lladd eu hunain.”
Ond dywedodd y gweinidog carchardai Andrew Selous: “Mae pob marwolaeth yn y carchar yn drasiedi. Rydym ni’n parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth yn ein gallu i’w hatal.
“Yr hyn nad ydw i’n ei ddeall yw pam fod Cynghrair Howard yn ceisio defnyddio’r marwolaethau hyn i hybu eu hymgyrchoedd eu hunain.
“Maen nhw yn fwriadol yn cam-gyfleu’r sefyllfa yn ein carchardai ar gyfer eu dibenion eu hunain. Nid yw hyn yn helpu unrhyw un – yn enwedig yr unigolion sy’n agored i niwed yn ein carchardai sy’n flaenoriaeth i staff y carchar a gweinidogion.”