Mae cynnig oedd yn galw am beidio adnewyddu rhaglen arfau niwclear Trident wedi cael ei wrthod gan Dŷ’r Cyffredin.

Dim ond chwech o ASau Cymreig ar draws gwledydd Prydain a bleidleisiodd dros y cynnig gan Blaid Cymru, yr  SNP a’r Blaid Werdd i atal adnewyddu’r rhaglen.

Ar y cyfan, fe wnaeth 364 o ASau bleidleisio yn erbyn y cynnig.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod Aelodau Seneddol o Gymru wedi “bradychu” eu hetholwyr drwy fethu â chefnogi’r alwad i beidio adnewyddu’r rhaglen gwerth £100 biliwn dros 30 mlynedd.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno yn enwau Elfyn Llwyd a Hywel Williams o Blaid Cymru, yn ogystal ag Angus Robertson, Stewart Hosie a Pete Wishart o’r SNP a Caroline Lucas o’r Blaid Werdd.

‘Gwarthus’

“Mae’n warthus bod y Blaid Lafur yn ymuno  gyda’r Torïaid i gyflwyno rhagor o doriadau ar ôl yr etholiad nesaf – ac eto’n gwrthod â rhoi terfyn ar y gwastraff dieflig yma o arian cyhoeddus”, meddai darpar ymgeisydd y Blaid dros Orllewin Abertawe, Harri Roberts.

“Gallai £100 biliwn gyflogi 150,000 o nyrsys ar draws gwledydd Prydain am 30 mlynedd, neu adeiladu hyd at 650,000 o dai newydd fforddiadwy.

“Bydd etholiad San Steffan ym mis Mai’n rhoi cyfle i bobol i ymwrthod â pholisïau cloff pleidiau Llundain,” ychwanegodd.

“Fe allai carfan gref o Aelodau Seneddol Plaid Cymru a’r SNP ddal y fantol yn y senedd nesaf – a dyna’r unig ffordd o sicrhau y caiff Cymru chwarae teg.”