Mae cynlluniau i gynnal pleidlais yn y Senedd cyn yr etholiad i orfodi cwmnïau tybaco i werthu sigaréts mewn pecynnau plaen wedi cael ei groesawu.

Dywed grwpiau iechyd ei fod yn “gam enfawr” tuag at greu cenhedlaeth ddi-fwg.

Fe ddatgelodd y gweinidog iechyd cyhoeddus Jane Ellison y byddai’r Llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau i wahardd brandio ar becynnau sigaréts yn Lloegr erbyn mis Mai 2016.

Fe fydd rheoliadau pellach yn gwahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant yn dod i rym ym mis Hydref eleni os yw’n cael sêl bendith y Senedd, medddai.

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Dr Penny Woods, y byddai gwerthu sigaréts mewn pecynnau plaen yn “fuddugoliaeth sylweddol i iechyd cyhoeddus ac yn gam enfawr tuag at atal rhai o’r 200,000 o bobl ifanc sy’n dechrau’r arfer bob blwyddyn.”

Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan grwpiau busnes sy’n dweud y bydd yn arwain at werthu sigaréts ar y farchnad ddu gan honni bod hynny wedi digwydd yn Awstralia, lle mae sigaréts yn cael eu gwerthu mewn pecynnau plaen.

Croesawu

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Dywedodd: “Rydym wastad wedi cefnogi mesurau i gyflwyno pecynnau plaen ar gyfer cynnyrch tybaco. Fe fyddai’r cam yma yn chwarae rhan bwysig iawn yn  ein hymdrechion i fynd i’r afael a’r niwed sy’n cael ei gysylltu â’r defnydd o dybaco.

“Rwy’n disgwyl derbyn rheoliadau drafft i’w hystyried yn fuan.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n ddiflino i ostwng lefelau ysmygu o 16% erbyn 2020.”