Carl Sargeant
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant wedi dweud bod prif raglenni ynni Llywodraeth Cymru, Nest ac Arbed wedi cael effaith bositif ar gymunedau ac economi Cymru.
Cafodd gwelliannau eu gwneud i 9,000 o gartrefi yn 2013-14, yn ôl Carl Sargeant, gan arbed hyd at £500 i bob un ar eu biliau ynni.
Dywed Carl Sargeant fod y rhaglenni’n creu swyddi, prentisiaethau a phartneriaethau er lles yr economi.
Fe fu’r Gweinidog yn ymweld ag Arbed yng Nghaerau ger Caerdydd, lle bydd 285 o gartrefi’n elwa o welliannau, gan gynnwys bwyleri newydd, systemau insiwleiddio a systemau gwresogi.
Fe fydd trigolion hefyd yn derbyn cyngor ar sut i leihau eu biliau.
‘Buddsoddiad clyfar’
Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: “Mae’r prosiect hwn yng Nghaerau yn rhoi hwb o £2 i economi Cymru ar gyfer pob £1 a fuddsoddir – ac mae hwn yn un o 32 o gynlluniau Arbed ledled Cymru.
“Cafodd hyn ei gyflawni trwy greu prentisiaethau, partneriaethau gyda chyflenwyr fel rhan o gydgynllun prentisiaid, a thrwy gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi ac mae’n esiampl ragorol o effeithiau ehangach buddsoddiad clyfar.”
Cyhoeddodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £70 miliwn mewn effeithlonrwydd ynni erbyn diwedd 2015.