Fe fydd gwelliannau i’r Bil Trais ar sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol yn cael eu hystyried heddiw er mwyn lleihau’r effaith mae trais yn y cartref yn ei chael ar fenywod.

Bydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn craffu ar gyfres o ddeg o welliannau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â gwelliannau’r gwrthbleidiau.

Pe bai’r Bil yn dod yn ddeddf, fe fydd yn cael ei adnabod fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.

Yn ôl un o’r gwelliannau, fe fydd mwy o ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyhoeddi’n flynyddol pa gamau sy’n cael eu cymryd i addysgu am drais domestig.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn atebol am y camau sy’n cael eu cymryd.

‘Gwella ymateb’

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: “Mae’r Bil yn canolbwyntio ar atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr, ac mae’n gosod cyfrifoldeb ar y sector cyhoeddus i wella’i ymateb i’r materion hyn.”

Ychwanegodd y byddai Ymgynghorydd yn cael ei benodi yn y pen draw i gefnogi’r ddeddfwriaeth, y swydd gyntaf o’r fath yng ngwledydd Prydain.