Llŷr Huws Gruffydd
Mae llefarydd bwyd Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfres o fesurau er mwyn cefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru.
Mae prisiau llaeth yn golygu bod y diwydiant yn wynebu argyfwng.
Daw sylwadau Llŷr Huws Gruffydd wedi i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ddweud yn San Steffan y bore ma y dylid annog cwsmeriaid yng ngwledydd Prydain i brynu llaeth o Gymru ar draul llaeth sy’n cael ei fewnforio o Ewrop.
Yn ôl Llŷr Huws Gruffydd, dylid cynhyrchu mwy o laeth yng Nghymru a gwella’r broses o farchnata llaeth yng Nghymru.
Roedd hefyd wedi ategu neges Stephen Crabb y dylai gwarchod ffermwyr llaeth fod yn rhan o rôl Beirniad y Cod Bwydydd, er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i ffermwyr llaeth o ran cytundebau gyda phroseswyr.
Mewn datganiad, dywedodd Llŷr Huws Gruffydd: “Mae ffermwyr llaeth Cymru wedi’u heffeithio’n ddifrifol yn ddiweddar gan gadwyn o ddigwyddiadau sydd wedi gostwng eu hincwm.
“Gyda thorri prisiau llaeth yn ofnadwy ar lefel fferm a chynyddu costau cynhyrchu, mae ffortiwn cynhyrchwyr llaeth mewn cyflwr peryglus iawn.”
Ychwanegodd fod rôl Beirniad y Cod Bwydydd yn “rhy gyfyng” ac nad oes ganddo’r grym i amddiffyn ffermwyr llaeth.
“Dylai Llywodraeth Cymru roi ei holl egni i gefnogi prif argymhellion adroddiad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan i ymestyn rôl y sefydliad.
“Dylai hefyd edrych ar farchnata ac arferion caffael er mwyn cynyddu defnydd y cyhoedd o laeth a chynnyrch llaeth.”
NFU
Yn y cyfamser, mae’r NFU wedi ategu barn Sainsbury’s y dylai “ffermwyr sy’n cynhyrchu ein llaeth wneud bywoliaeth”.
Gwnaeth Sainsbury’s y sylw mewn hysbyseb sy’n cwestiynu ymrwymiad rhai o’i wrthwynebwyr i gynhyrchwyr o wledydd Prydain.
Ymddangosodd yr hysbyseb mewn nifer o bapurau newydd Prydeinig.
Dywedodd yr NFU fod “ffermwyr Prydain, yn syml iawn, am gael pris cynaliadwy ar gyfer y llaeth y maen nhw’n ei werthu wrth glwyd y fferm”.